Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Cyfarwyddwr newydd ar gyfer Cymru

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Michelle Matheron yn Gyfarwyddwr Cymru Dysgu a Gwaith.

Bydd Michelle yn arwain ein gwaith yng Nghymru ac yn rhan bwysig o uwch dîm arweinyddiaeth y sefydliad. Ar hyn o bryd mae Michelle yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol, Materion Allanol y Brifysgol Agored yng Nghymru ac mae ganddi fwy na ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn polisi, materion cyhoeddus a chyfathrebu ar draws y sector Addysg Uwch a’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Dywedodd Stephen Evans, prif weithredwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Rwyf yn hynod falch i groesawu Michelle i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae ganddi lawer iawn o arbenigedd mewn dysgu gydol oes a bydd yn helpu i lywio ein gwaith ar draws dysgu, sgiliau a chyflogaeth. Mae Michelle yn ymuno â ni ar amser hollbwysig gyda’r etholiadau i Senedd Cymru y flwyddyn nesaf a gyda dysgu a gwaith yn edefyn aur ar draws cynifer o’r heriau mawr. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Michelle i barhau i dyfu effaith ein gwaith yng Nghymru.”

Dywedodd Michelle Matheron: 

“Mae’n fraint enfawr ymuno â thîm y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Rwyf wedi gweithio wrth ochr y sefydliad ers nifer o flynyddoedd ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael cyfle i arwain eu gwaith yng Nghymru ar adeg pan na fedrai dysgu gydol oes, sgiliau a mynediad i gyflogaeth fod yn bwysicach.”
id before:17378
id after:17378